Ysgol gynradd ar gau yn dilyn negeseuon bygythiol dros nos

Ni wnaeth Ysgol Gynradd Dafen yn Llanelli agor ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Ni fydd ysgol gynradd yn Llanelli yn agor fore Llun ar ôl i negeseuon bygythiol gael eu gwneud ar y we, meddai'r heddlu.
Bydd Ysgol Gynradd Dafen wedi cau, wedi i Heddlu Dyfed-Powys dderbyn gwybodaeth am 02:30 oedd yn golygu bod angen gweithredu camau diogelu.
Cafodd y penderfyniad ei wneud ar y cyd rhwng yr heddlu a Chyngor Sir Gâr.
Mae presenoldeb heddlu yn yr ysgol ac yr ardaloedd o'i hamgylch, a bydden nhw'n parhau yno wrth i swyddogion wneud ymholiadau.
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn deall pryderon rhieni, ond eu bod yn fodlon bod y camau diogelu cywir wedi eu dilyn.
Ychwanegodd y llu eu bod yn parhau i weithio gyda'r cyngor ac y bydd diweddariadau yn cael eu rhyddhau pan fo hynny'n bosib.
Nid oes unrhyw ysgolion eraill wedi cau yn yr ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.