Babi naw mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad ci

Mae cerbydau'r heddlu yn parhau yn Rogiet fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae babi naw mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad ci yn Sir Fynwy.
Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi "derbyn adroddiad o ymosodiad gan gi" mewn tŷ ar stryd Crossway ym mhentref Rogiet, ger Cil-y-coed tua 18:00 nos Sul.
Fe gafodd swyddogion heddlu a pharafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans eu hanfon i'r cyfeiriad, ble y cadarnhawyd bod babi naw mis oed wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae'r ci wedi cael ei symud o'r eiddo, medd y llu, sy'n apelio am wybodaeth.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd John Davies: "Rydym yn deall y bydd yna bryderon ynghylch y digwyddiad yma, ond mae swyddogion yn bresennol ac fe fyddan ni gwneud rhagor o ymholiadau wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen."
"Os oes gyda chi bryderon neu wybodaeth, dewch atom er mwyn siarad â ni."
Dywedodd pobl leol nad oedden nhw'n gallu credu bod babi wedi marw, a bod y gymuned mewn sioc.
Erbyn 22:00 roedd y rhan fwyaf o gerbydau'r Gwasanaeth Ambiwlans a'r heddlu wedi mynd, ac yn eu lle roedd timau archwilio manwl wedi cyrraedd.
Tawel iawn ar y stryd
Mae swyddogion heddlu yn parhau i fod ar ddyletswydd y tu fas i dŷ yn Crossways ym mhentre' Rogiet.
Mae hi'n dawel iawn ar y stryd fore Llun, yn wahanol iawn i'r olygfa nos Sul pan roedd nifer o gerbydau'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yma.
Mae Rogiet yn bentre tawel ger Cil-y-Coed nid nepell o'r pontydd dros Afon Hafren.
Mae nifer sy'n byw yma yn teithio i'w gwaith ym Mryste, gyda'r ardal wedi dod yn fyw apelgar ers i'r tollau dros y pontydd gael eu dileu rai blynyddoedd yn ôl
'Teimlad dwys o sioc'

Dywedodd y Cynghorydd Peter Strong wrth y BBC fod y "pentref mewn galar heddiw".
"Mae o'n deimlad dwfn a dwys o sioc y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd yng nghanol ein cymuned dawel ni."
Ychwanegodd bod "colli babi yn yr amgylchiadau hyn yn ofnadwy", ac na allai "hyd yn oed ddechrau dychmygu'r galar y mae'r teulu'n ei deimlo'r bore yma".
Diolchodd Mr Strong i'r gwasanaethau brys, gan ganmol ysbryd cymunedol yr ardal, a gofyn i bobl roi llonydd i'r teulu.